Beth
yw Llais Ni?
Sefydlwyd
Llais Ni pedair mlynedd yn ôl a mae'r prosiect yn gweithio
mewn partneriaeth a Cyngor Ynys Môn a NSPCC Cymru.
Rydym yn brosiect
i blant a pobol ifanc ag yn arbenigo mewn gwneud yn siŵr fod
eu lleisiau yn cael ei glywed yn gryf.
Mae
Llais Ni yn gwneud yn siwr fod plant a phobl ifanc yn cael cyfle i ddweud eu
dweud ar bynciau sydd yn bwysig iddynt, mae hyn yn cynnwys
eu barn am ysgolion, clybiau ieuenctid, gweithgareddau
hamdden a gwasanaethau trafnidiaeth ar yr ynys.
Trafodir
hefyd materion sydd yn codi mewn cymunedau ynglyn a
cyffuriau, alcohol, torri'r gyfraith a materion eraill
pwysig ar yr ynys.
Ceir diwrnodau gweithgareddau hwyl
i blant o
bob oed er mwyn i blant a phobl ifanc o bob ardal a
chymuned a gwahanol gefndir gael hwyl a gwneud ffrindiau
ar yr un pryd.
Bwriad y wefan yma
ydi rhoi gwybodaeth ar digwyddiadau i ddod yn
ein hardal leol.
Cofiwch, rydym yma i
chi ac os oes gennych rhywbeth i’w ddweud am fyw yn Ynys Môn
neu os oes gennych syniadau am brosiectau mae ‘na fwrdd
negeseuon a rhif ac E-bost.
Rydym eisiau helpu i wneud
Ynys Môn yn lle gwell i blant a phobl ifanc fyw ynddo!